Hywel Dda University Health Board has just finished consulting on its Programme Business Case to build a new urgent and planned care hospital in the west of Carmarthenshire, which will see Glangwili and Withybush General Hospitals lose services such as A&E to become “community hospitals”. You can read our response to the Hywel Dda consultation here.
According to Hywel Dda UHB’s own 2022 Workforce Land Appraisal 2625 jobs or 68% of roles will be relocated from Glangwili with 1539 jobs or 65% of roles from Withybush. Despite concerns being raised at every consultation meeting about the risk to patients and services from increased travel times to the new rural location Hywel Dda has still decided to push ahead with its proposals.
The increased transport times to the replacement hospital, down the already crowded A40, are acknowledged as a risk to the lives of Carmarthenshire residents as well as those living in Ceredigion whose nearest hospital is Glangwili. Worse still, the highly optimistic travel times published by Hywel Dda do not stand up to scrutiny, particularly when the replacement hospital itself will generate thousands of new car journeys.
We are deeply concerned to learn that the closing Glangwili as a general hospital could eventually result maternity services being removed entirely to Swansea. This could have serious implications for the Y Fro Gymraeg with mothers forced to embark on a huge commute to access neonatal services.
CRAiG Sir Gâr opposes the plan to downgrade Glangwili. We want Hywel Dda to invest the funds for the new hospital to upgrade the existing Glangwili Hospital instead. Sign the petition.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi newydd orffen ymgynghori ar ei Achos Busnes Rhaglen i adeiladu ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin, a fydd yn gweld Ysbytai Cyffredinol Glangwili a Llwynhelyg yn colli gwasanaethau fel adrannau damweiniau ac achosion brys i ddod yn “ysbytai cymunedol”. Gallwch ddarllen ein hymateb i ymgynghoriad Hywel Dda yma.
Yn ôl Arfarniad Tir Gweithlu 2022 BIP Hywel Dda ei hun, bydd 2625 o swyddi neu 68% o rolau yn cael eu hadleoli o Langwili gyda 1539 o swyddi neu 65% o rolau o Lwynhelyg. Er gwaethaf pryderon a godwyd ym mhob cyfarfod ymgynghori ynghylch y risg i gleifion a gwasanaethau yn sgil amseroedd teithio cynyddol i’r lleoliad gwledig newydd, mae Hywel Dda wedi penderfynu bwrw ymlaen â’i gynigion o hyd.
Mae’r cynnydd mewn amseroedd cludo i’r ysbyty newydd, i lawr yr A40 sydd eisoes yn orlawn, yn cael ei gydnabod fel risg i fywydau trigolion Sir Gâr yn ogystal â’r rhai sy’n byw yng Ngheredigion sydd â’r ysbyty agosaf yng Nglangwili. Yn waeth byth, nid yw’r amseroedd teithio hynod optimistaidd a gyhoeddwyd gan Hywel Dda yn gallu gwrthsefyll craffu, yn enwedig pan fydd yr ysbyty newydd ei hun yn cynhyrchu miloedd o deithiau car newydd.
Rydym yn bryderus iawn o glywed y gallai cau Glangwili fel ysbyty cyffredinol arwain yn y pen draw at symud gwasanaethau mamolaeth yn gyfan gwbl i Abertawe. Gallai hyn fod â goblygiadau difrifol i’r Fro Gymraeg gyda mamau’n cael eu gorfodi i gymudo enfawr i gael mynediad i wasanaethau newyddenedigol.
CRAiG Sir Gâr yn gwrthwynebu’r cynllun i israddio Glangwili. Rydym am i Hywel Dda fuddsoddi’r arian ar gyfer yr ysbyty newydd i uwchraddio Ysbyty Glangwili presennol yn lle hynny. Llofnodwch y ddeiseb.